Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-05-11 : Papur 1

 

Papur tystiolaeth i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

 

Y Gyllideb 2012-13: Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb

 

1.    Yn Chwefror 2011, cyhoeddwyd Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb Cyllideb Drafft 2011-12 ar y cyd â Chyllideb Derfynol 2011-12. Gwnaeth Adrannau Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb o’u penderfyniadau eu hunain ynghylch dyraniadau cyllideb a arweiniodd at nifer o addasiadau. Gwnaed yr Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb hwn ar y penderfyniadau strategol a wnaeth y Cabinet ac arweiniodd at gynyddu’r cyllid i wasanaethau cymdeithasol a thai a phobl agored i niwed.

 

2.    Ychydig iawn o newid a fu yn nyraniadau eleni o’u cymharu â chyllideb y llynedd, a oedd yn gyllideb tair blynedd, felly nid yw Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd y gwaith manwl a wnaed y llynedd. Ond yr ydym wedi gwneud asesiadau lle bu newid yn y gyllideb. Mae’n bwysig fod Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb eleni ac Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb Cyllideb 2011-12 yn cael eu hystyried gyda’i gilydd.

 

3.    Lle mae cynlluniau gwario wedi newid o’r rhai a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y llynedd cafodd asesiad o effaith ar gydraddoldeb ei gwneud ac, yn arbennig, mae hyn yn cynnwys dyraniadau ychwanegol ar gyfer:

 

·  Ein hymrwymiadau Pump am Ddyfodol Tecach;

·  Parhau i gyflenwi ein cyfres o fuddion cyffredinol; a

·  Sicrhau cynaliadwyedd ariannol yn y GIG

 

Asesu’r newidiadau ar gyfer Cyllideb 2012-13

 

4.    Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ddangos eu bod yn gwneud penderfyniadau ariannol mewn dull teg, tryloyw ac atebol, gan ystyried anghenion a hawliau gwahanol aelodau o’u cymuned. Cyflawnir hyn drwy asesu’r effaith y gallai newidiadau i bolisïau ac arferion eu cael ar wahanol grwpiau a warchodir.

 

5.    Er mwyn bod yn hyderus bod yr effaith ar gydraddoldeb wedi ei asesu ym meysydd y gyllideb, gwnaeth adrannau Llywodraeth Cymru sgriniad dechreuol i ystyried a allai hyn gael effaith ar gydraddoldeb fel rhan o broses Llunio Polisïau Cynhwysol Llywodraeth Cymru.

 

6.    Yn ystod y cam sgrinio, cafodd swyddogion eu llywio i ystyried argaeledd ac ansawdd y dystiolaeth i seilio penderfyniadau arni. Roedd y penderfyniadau hyn  yn ymwneud â lefel yr effaith wahaniaethol niweidiol debygol y gallai’r polisi ei gael ar unrhyw rai o’r llinynnau cydraddoldeb. Mesurwyd ansawdd y dystiolaeth a gasglwyd yn ogystal â’r effaith wahaniaethol debygol.

 

7.    Yn dilyn y sgriniad dechreuol, roedd yn amlwg wedyn y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar bobl gydag un neu fwy o’r nodweddion a warchodir.  Yna roedd angen asesiad manwl i ddeall yn well beth fyddai effaith posibl y dyraniadau arfaethedig yn y gyllideb.

 

8.    Byddai’r asesiadau manwl fel arfer yn cynnwys asesiad mewn mwy o fanylder o nodau ac amcanion y polisi neu arfer, sut maent yn ymwneud â chydraddoldeb ac a oes ffyrdd y gallent hyrwyddo cydraddoldeb yn well, yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r ymchwil a gasglwyd yn ystod y cam sgrinio. Dylai arwain at farn gytbwys am lefel yr effaith y gallai’r polisi neu’r arfer ei gael ar unrhyw un neu bob un o’r llinynnau cydraddoldeb.

 

9.    Fe’i gwnaed yn eglur y byddai’n rhaid i’r adrannau hynny lle gallai asesiadau o effaith ar gydraddoldeb gael eu gwneud ymgysylltu gyda a rhoi ystyriaeth i farn rhanddeiliaid perthnasol lle bo hynny’n briodol a sicrhau eu bod wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn.

 

Llunio Polisi Cynhwysol

 

10.    Fel y crybwyllwyd ym mharagraff 5, o fewn Llywodraeth Cymru ein dull ar gyfer asesu penderfyniadau cyllidebol am effeithiau ar gydraddoldeb yw drwy’r broses Llunio Polisi Cynhwysol.

11.    Defnyddiodd Adrannau Llywodraeth Cymru’r canllawiau Llunio Polisi Cynhwysol i gynorthwyo i gyrchu at yr holl ddeunydd perthnasol wrth wneud eu hasesiadau ac wrth gynghori Gweinidogion am eu penderfyniadau.

http://wales.gov.uk/topics/equality/publications/ipmguide2/?lang=en

 

 

 

 

Jane Hutt AC

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ